Croeso i wefan Ysgol Glanwydden.
![]() |
|
|
Croeso i'n hysgol ni
Mae Ysgol Glanwydden yn derbyn plant o ardal Bae Penrhyn, Ochr y Penrhyn, Bryn Pydew a Glanwydden. Ym mis Medi 2008 mae yma 234 disgybl llawn amser a 38 rhan amser (meithrin). Cyflogwn 14 athro (13 athro dosbarth a'r pennaeth), 2 weinyddes feithrin, 5 gweinyddes dosbarth, 5 goruchwyliwr amser cinio, ysgrifenyddes, clerc cinio, 3 lanhawraig, cogyddes a 3 gynorthwy-ydd cegin. |
![]() |
![]() |
| Credwn ei bod yn hanfodol i addysg plentyn i adeiladau perthynas dda rhwng y cartref a'r ysgol, a byddwn yn annog rheini i gymeryd rhan ym mywyd yr ysgol. Gwerthfawrogwn gymorth rhieni gyda darllen, chwaraeon a gweithgareddau eraill. | Mae pobol yn cael hyder trwy ddod yn ymwybodol o beth sy'n digwydd ynddi. Trwy gyfarfod a thrafod a staff yr ysgol daw rheini i ddeall mwy am yr ysgol a'i gwaith. Mae'n bwysig y seilir ein cyfrifoldeb unol am addysg ar ddealltwriaeth ac ymddiriedaeth yn ein gilydd, ac anogwn reini i gymryd mantais o bob gwahoddiad i gyfarfod athrawon eu plant. |


